Yn y blogpost yma mae Russell Todd, sylfaenydd Llwybrau Cwrw y Cymoedd, yn myfyrio ar ba mor bwysig oedd tafarndai yn ei yrfa datblygu cymunedol.

Am y 16 mlynedd ddiwethaf buaswn i’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn natblygu cymunedol (DC) ledled Cymru. Cwympais i ynddo fe i fod yn onest, fel cymaint ohonom ni yn y sector wedi gwneud, ond rydw i wedi bod yn hynod ffodus ei fod wedi fy nghymryd i i gryn dipyn o gymunedau diverse ar draws Cymru.

Bu’n fraint i weithio gyda chymunedau gwahanol i’w helpu nhw llunio dyfodol sy’n wahanol i’w gorffennol. Mae’r gwaith wedi fy siapo fi, wedi helpu fi deall yn well cymdeithas ac economi, ac yn aml wedi ymddarostwng.

Ac roedd tafarndai’n amlwg ar hyd y ffordd:

  • pryd bwyd, ar ôl cyfarfod hwyr yn y nos, yn y dafarn South Stack yng Nghaergybi lle defnyddiai grŵp o ddewiniaid amatur fi fel cynulleidfa ddifyfyr o un i wylio eu castiau newydd sbon
  • trafod mentrau cymdeithasol yn Y Pengwern yn Llan Ffestiniog sydd gan berchenogaeth gymunedol (wir, mae fy Nghymraeg i’n gwella gyda’r mwy o beintiau yr ydw i’n eu hyfed…)
  • gwylio machlud yr haul wrth llymeitio cyrfau Miws Piws yng Ngwesty Tŷ Newydd yn Aberdaron
  • eistedd yng Ngwesty’r Castell yn Rhuthun ar gyfer cyfarfod, pan ddylwn i fod wedi eistedd yn y Gwesty Castell Rhuthun
  • yn ystod diodydd ymadael yn nhafarn The Long Pull yn Wrecsam ar ddiwrnod olaf fy swydd DC cyntaf, pan rhedodd un o’r trigolion lleol i’r siop anifeiliaid anwes ddrws nesaf, prynodd fochdew a rhoi’r enw Russell iddo er clod i fi

Ac dyna dafarndai y Gogledd yn unig. Dros y blynyddoedd fy mhrif filltiroedd sgwâr y Cymoedd oedd Merthyr Tudful a’r ardal Islwyn yng Ngwent a byddai tafarndai’n amlwg yma hefyd. Ennill ymddiried pobl yw elfen allweddol o ddatblygu cymunedol llwyddiannus ac mae tafarndai wedi profi bod yn llefydd delfrydol i ddod i adnabod pobl; dros gwpl o ddiodydd byddai pobl yn dadlennu eu hunain cywir a gellir ddarganfod tir cyffredin a phrofiadau cyfrannol.

Ar y stad tai gyda’r un enw oddi Heol Abertawe ym Merthyr Tudful byddai’r Twyn Carmel Inn yn lleoliad o brofiadau ffurfeiddiol  allweddol yn y rôl a fyddai gyda fi yno a helpai fi ennill derbyniad (gyda rhai o bobl o leiaf). Roedd hi lle fyddai’r tîm tai lleol yn ciniawa a chynnal digwyddiadau cymdeithasol, gan rannu lle yn gyfochr â phobl lleol a fyddai’n bwysig i gael gwared â rhwygiadau; byddai’n ffordd gwych o ddysgu’n anffurfiol am goings on lleol. Byddai’r arwahanrwydd gogoneddus a’i cynhigiwyd gan y dafarn eponymaidd ym Man-moel ger Oakdale yn lloches eidylig ar gyfer cyfarfodydd gyda phentrefwyr ar brynhawniau achlusyrol yr wythnos y byddai hi’n agor.

Mae’r cymdeithasegydd amlwg Ray Oldenburg wedi ysgrifennu’n eang ar bwysigrwydd llefydd cyhoeddus i gymdeithas sifil swyddogaethol. Bathwyd hyn ‘trydydd mannau’ ganddo fe ar ôl yr aelwyd a chartref (mannau cyntaf) a’r gweithdy (ail fannau) lle maent yn hwyluso dadl, ymadwaith cymdeithasol, serendipedd, a lle gall hualau cymdeithasol eu sefydlu. I Oldenburg mae amrediad o drydydd mannau: caffis, salonau, parciau, sgwarau tref. A thafarndai.

Meddyliwch am yr amrediad o gymeriadau sy’n pasio trwy’r bar yn Cheers, y Rovers Return yn Coronation Street neu’r Deri yn Pobl y Cwm. Mae’r hierarchaethau’n yn cael eu lefelu; mae’r mynychwyr yn athronyddu, myfyrio; yn aml maen nhw’n sgamio a chynllwynio; weithiau maen nhw’n cefnogi’u hunain.

Ond mewn rhai o gymunedau difrentiedig mae nifer ac argaeledd o fannau cyhoeddus wedi disgyn. Yn Llwyncelyn, gogledd i Goed Duon, yr unig lle ar gael i gynnal cyfarfodydd fyddai’r Hollybush Inn. Yn anffodus, caeodd hi tua 2007 achos bu busnes yn lleihau.

I Oldenburg mae nodweddiad allweddol o drydydd mannau yn  niwtraledd. Yn Nhrinant, ger Crymlyn – cymuned yn gymharol cyfoethog mewn mannau cymdeithasol – byddai’r cydymgeisiau a phlwyfoldebau yno’n peri bod rhai ohonynt nhw’n ddi-niwtral weithiau. Yn yr achos hwn bydden ni’n ymgilio i’r Pentwyn Inn.

Yn y cyn Westy Sirhowy Arms ar Stryd Fawr yn Argoed roedd perchnogion y dafarn yn awyddus i ddatblygu’r dafarn fel hwb cymunedol, a byddai ein cyfarfodydd cymunedol yno yn cyflewnwi eu hymdrechion i amrywiaethu i wasanaethau gwahanol.

Rydw i wedi newydd ddigwydd dod ar draws dyroddiadau cyfrannau llwyddiannus i gadw neu ail-agor tafarndai gwledig megis Tafarn y Sinc yn Rosebush, Sir Benfro neu’n ddiweddar Yr Heliwr yn Nefyn, Gwynedd; mae hyn yn awgrymu bod cymunedau’n cadw cysylltiad â thafarndai fel asedau cymunedol gwerthfawr neu ‘isadeiledd’ cymdeithasol’. Ond dydy’r cysyniad o’r ‘pub as a hub’ ddim yn cyfyngu i gymunedau gwledig. Mae’r Bevy mewn rhan ‘dodgy’ o Brighton yn stori llwyddiannus cydweithredol diweddar o’r gwerth cymdeithasol o dafarn mewn dinas mawr. Un arall yw’r ffordd syfrdanol y cefnogodd trigolion yn Radur yr ymdrechion cyntaf tafod-ym-moch ar gyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at ddiffyg tafarn yn y pentref ond ers hynny wedi llwyddo’r fenter. Mae’r Radyr Tap ar fin agor a bu llawer o bobl yn cyfeirio at hen ddigon o elwau cymdeithasol a chymunedol yn yr ymgynghoriad ar geisiau cynllunio a trwydded y dafarn.

Dusty Forge, ElyHyd yn oed os yw tafarn wedi cau does dim angen ei dyfodol fod yn drigannol. Mae’r hen dafarn – a gweddol ddrwgenwog – Dusty Forge yn Nhrelái yng ngorllewin Caerdydd yn awr hwb a chanolfan adnoddau cymunedol fywiog ar gyfer gweithrediad cymunedol, hyfforddiant a chefnogaeth cyflogi, amser bancio a llond o weithrediadau eraill. Mae’r ymdrechion cychwynnol yr ymddiriedolaeth ddatblygu lleol, ACE, i adfywio bragu yn Nhrelái – ardal gyda threftadaeth bragu cyfoethog ond yn eithaf anghydnabyddedig – yn awgrymu y gall defnyddiau newydd gael amnaid gydymdeimladol i orffennol tafarn os dylai rhaid iddi gau.

Yn Wrecsam, tafarn sy’n berchennog gan y gymuned yw Saith Seren sy’n ymgeisio bod yn hwb, nid ar gyfer cymuned daearyddol, ond ar gyfer cymuned o ddiddordeb: y rheini sy’n siarad, neu sy’n dysgu, Cymraeg. Mae ganddi gynnig cymdeithasol a diwylliannol bywiog gan gynnwys gigiau cerdd, mannau cyfarfod cymunedol a digwyddiadau chwaraeon ac mae’n gefnogwr brwdfrydig o fragdai Cymreig annibynnol.

Enghraifft gwych o sut all tafarn gyfrannu i’r hynny bod Oldenburg yn galw “egni cymdeithasol” yw’r grŵp cymdeithasol misol ‘cestau cwrw’ yn y White Cross yng Ngroeswen ger Caerffili. Trwy Lwybrau Cwrw y Cymoedd yr ydym eisiau cyflenwi ymdrechion y rheini megis Mair yn y White Cross. Ebostwich post@valleysaletrails.wales er mwyn ymuno â’n rhestr bostio a chysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @valleysaletrail

Instagram / Facebook: valleysaletrails