Pwy ydym ni?

Sylfaenwyd Llwybrau Cwrw y Cymoedd gan Russell Todd a Dylan Jones

Russell Todd

Datblygu cymunedol, menter gymdeithasol a chynhwysiant digidol yw cefndir Russell, gan gefnogi pobl yng nghymunedau difantais i sicrhau dyfodol ar gyfer eu cymunedau sy’n wahanol i’w gorffennol. Mae e wedi gweithio ar draws Cymru ond mae profiad penodol gyda fe o Ferthyr Tudful a chymoedd Gwent. Ar hyn o bryd mae e’n gweithio fel Cysylltydd Indycube ar gyfer de ddwyrain Cymru a de orllewin Lloegr.

Yn frwdfrydig am gwrw gwir, a chrwydrwr o dirluniau diwydiannol, mae Russell hefyd wedi sylfaenu dau bodlediad: am dîm pêl-droed Cymru; a datblygu cymunedol yn y DU.

Mae gan Dylan dros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sector Treftadaeth, ac yn 2017 dechreuodd ei fusnes ei hun – Teithiau Dylan.

Gyda chariad at hanes Cymru, mae Dylan yn gymwys iawn i fynd â ymwelwr o gwmpas gwlad ei geni, ac ar ôl ymchwilio a chyhoeddi ar amrediad arbenigaethau mae ganddo’r ddawn i ddarganfod trysorau cudd ar hyd y ffordd.

Mae Dylan hefyd yn gyfrifol am y cyfrif Twitter poblogaidd @PubsCymru.

Dylan Jones