Llysgenhadon

Sion Tomos Owen

Ges i fy magu’n Gymro Cymraeg yng Nghwm Rhondda a dwi dal i fyw yn y Cymoedd. Es i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen ac yna i Ysgol Gyfun Cymer Rhondda. Es i ymlaen i astudio Celf Sylfaen a Dylunio yng Ngholeg Celf, Darlunio a Thechnoleg Morgannwg ac yna i astudio Sgwennu Creadigol a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Dwi’r artist ac yn awdur dwyieithog. Cafodd fy llyfr gyntaf, Cawl, cymysg o straeon, barddoniaeth ddwyieithog, Erthyglau, a chomics ei gyhoeddi yn 2016 gan Parthian ac mae Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda, llyfr i Ddysgwyr Cymraeg Sylfaen, newydd ei gyhoeddi yn 2018 gan Y Lolfa. Enillais Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu syniad Nofel Graffen Meibion Abereba trwy 2018 gyda’r gobaith i’w gyhoeddi yn 2019. roedd fy ngwaith graffeg yn rhan o raglenni Y Clwb Rygbi drwy bencampwriaeth y 6 Gwlad 2018 yn creu comic i gael ei animeiddio ar gyfer bob gem ryngwladol Cymru.

Dwi’n gyflwynydd teledu ddwyieithog ar S4C a BBC sydd wedi cyflwyno 2 gyfres Pobol y Rhondda, cyfres ddogfen yn plethu celf, diwylliant a thrigolion Cwm Rhondda. Dwi’n rhan o dîm cyflwyno Cynefin, ac yn ffilmio’r ail gyfres trwy Hâf 2018. Dwi hefyd yn ysgrifennu a chanu caneuon ar raglen Jonathan. O ran gwaith radio dwi’n rhan o dîm cyflwyno Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ar BBC Radio Cymru. dwi hefyd wedi gweithio yn cyflwyno gemau “grassroots” ar BBC ScrumV.

Dwi’n cynnal gweithdai creadigol, creu murluniau, gwaith celf a caricatures mewn digwyddiadau byw gyda fy nghwmni CreaSiôn.

Dwi’n byw yn Nhreorci, cwm Rhondda gyda fy ngwraig a fy merch.