Polisi Preifatrwydd Llwybrau Cwrw y Cymoedd

Y Polisi: Pwrpas y polisi hwn yw esbonio sut yr ydym ni yn rheoli, prosesu, gofalu am, a gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn ein busnes tra yr ydych chi yn pori neu ddefnyddio’r wefan yma.

Diffiniadau allweddol y polisi:

  • Cyfeiria “fi”, “ein”, “ni” a “ninnau” at ein busnes, Valleys Ale Trails / Llwybrau Cwrw y Cymoedd Cyf.
  • Cyfeiria “chi”, “y defnyddiwr” i berson(au) sydd yn defnyddio’r wefan hon.
  • Cyfeiria “RhDDC” at y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
  • Cyfeiria “RhPCE” at y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig
  • “SCG” yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddio diogelu data o fewn y DU.
  • Mae “cwcis” yn cyfeirio at ffeiliau bach sy’n cael eu storio ar gyfrifiadur neu declyn defnyddiwr.
  • Mae “Rheolwr Data” yn golygu sefydliad sydd yn penderfynu ar bwrpas a modd sut mae’r data yn cael ei brosesu.

Prif egwyddorion y RhDDC (Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol):

Mae ein polisi preifatrwydd yn ymgorffori’r egwyddorion allweddol canlynol; (a) cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder, (b) cyfyngiadau’n pwrpas, (c) lleihau data, (d) cywirdeb, (e) cyfyngiad storio, (f) uniondeb a hyder, (g) atebolrwydd.

Prosesu eich gwybodaeth bersonol

Rydym wedi cofrestru gyda’r SCG fel Rheolydd Data ac ein rhif cofrestru yw : ZA371920

O dan yr RhDDC, rydym yn rheoli a/neu’n prosesu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch yn electronig gan ddefnyddio’r seiliau cyfreithlon canlynol.

  • Sail gyfreithlon:  Caniatâd

Pwrpas ein prosesau yw :    casglu a chadw cofnod o’ch manylion cyswllt ar gyfer anfon gohebiaeth atoch, gan gynnwys ein e-gylchlythyr misol (os ydych chi wedi dewis ei dderbyn) a/neu ohebiaeth yn ymwneud â’ch diogelwch – a’ch mwynhad – ar unrhyw ddigwyddiadau Llwybr Cwrw Y Cymoedd yr ydych yn mynychu.

Cyfnod cadw data:  Byddwn yn parhau i brosesu eich gwybodaeth o dan y sail hon oni bai eich bod yn tynnu caniatâd yn ôl neu’n benderfynol nad oes angen eich gwybodaeth.

Rhannu eich gwybodaeth: Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw drydydd parti.

  • Sail gyfreithlon:  Cytundeb

Pwrpas ein prosesau yw:  i gasglu, storio a/neu defnyddio manylion talu fel eich carden wybodaeth/debyd, ac eich manylion cyswllt yn rhinwedd eich archebion

Sydd yn angenrheidiol achos:  fe fyddwn ni angen prosesu eich taliad ar gyfer tocynnau ar ddigwyddiad y llwybr er mwyn cynnig ad-daliad pe bai digwyddiad yn cael ei ohirio, pan fyddwn ni angen cysylltu gyda chi gyda gwybodaeth ac adnoddau am y digwyddiad Llwybrau rydych wedi archebu.  Mae hyn er mwyn sicrhau eich diogelwch a’ch mwynhad a gall gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) anfon bandiau llewys, cyfarwyddiadau ymuno a manylion unrhyw newidiadau i’r llwybr a gynlluniwyd.

Cyfnod cadw Data:Byddwn yn parhau i brosesu’ch gwybodaeth o dan y sail hon tan ddiwedd y cytundeb sydd gennym gyda chi, a/neu os penderfynir nad oes angen eich gwybodaeth arnom fwyach.

Rhannu eich gwybodaeth: Nid ydym ni yn rhannu gwybodaeth gydag unrhyw trydydd parti.

  • Sail gyfreithlon: Diddordeb cyfreithlon

Pwrpas ein prosesau yw: er mwyn hybu ein llwybrau.

Sydd yn angenrheidiol oherwydd:  Efallai y byddwn am ddefnyddio delweddau o gyfranogwyr sy’n mwynhau ein llwybrau ar ein gwefan a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol. Gall hyn gynnwys deunydd fideo.

Cyfnod cadw gwybodaeth : Byddwn yn parhau i brosesu’ch gwybodaeth o dan y sail hon nes y penderfynir nad oes angen yr wybodaeth honno arnom fwyach. Os nad ydych yn dymuno i’ch delwedd(au) gael eu defnyddio yn y modd hwn, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu ar lwybr. Bydd manylion ynghylch pwy i gysylltu â hwy yn cael eu darparu ar adeg archebu a/neu yn eich cadarnhad o’r archeb.

Rhannu eich gwybodaeth: Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd parti.

Os byddwn, fel y pennir gennym ni, y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol yn newid, gwnawn eich hysbysu am y newid ac unrhyw sail gyfreithlon newydd i’w defnyddio os bydd angen. Byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol os nad yw’r sail gyfreithlon a ddefnyddir yn berthnasol mwyach.

Eich hawliau unigol

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yn fanwl yma, ond yn gryno, gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol;

  • Yr hawl i dderbyn gwybodaeth;
  • Yr hawl i fynediad;
  • Yr hawl i unioniad;
  • yr hawl i ddilead;
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu;
  • Yr hawl i drosglwyddo data ;
  • yr hawl i wrthwynebu; ac
  • yr hawl i beidio â bod yn destun proses gwneud penderfyniadau awtomataidd gan gynnwys proffilio.

Rydym yn trafod ceisiadau mynediad i’r pwnc yn unol â RhDDC.

Hefyd, mae gennych hawl i gwyno i’r SCG os teimlwch fod problem gyda’r ffordd yr ydym yn trin eich data, a gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt yn www.ico.org.uk.

Cwcis y we

Defnyddiwn ‘cwcis’ ar y wefan hon er mwyn darparu profiad mwy hwylus i’r defnyddiwr. Cyflawnwn hyn trwy ddodi ffeil testun bach ar eich dyfais/cyfrifiadur er mwyn tracio sut yr ydych chi yn gwneud defnydd o’r wefan, i recordio a nodi os ydych chi wedi gweld negeseuon arbennig y dangoswn ni, ac i ddarparu gwybodaeth arbennig a ddarperir gan wefannau trydydd parti.

Mae rhai cwcis yn angenrheidiol er mwyn mwynhau a defnyddio’r wefan hon i’w llawn botensial.

Rydym yn defnyddio system rheoli cwcis sy’n caniatáu i chi dderbyn y defnydd o cwcis, a rheoli pa cwcis sy’n cael eu cadw ar eich dyfais/cyfrifiadur. Bydd rhai cwcis yn cael eu cadw am gyfnodau penodol, lle bydd eraill yn para am gyfnod amhenodol. Dylai eich porwr gwe roi’r rheolyddion i chi reoli a dileu cwcis o’ch dyfais, edrychwch ar eich dewisiadau porwr gwe.

Gellir gweld manylion pellach am ein defnydd o friwsion ar ein tudalen Polisi Cwcis. Cynhyrchir a diweddarir y polisi cwcis hwn yn awtomatig gan y meddalwedd, felly dim ond fersiwn Saesneg sydd ar gael.

Diogelwch data a diogelwch

Rydym yn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth bersonol a ddelir gennym drwy ddefnyddio technolegau storio data diogel a gweithdrefnau manwl gywir yn y ffordd yr ydym yn storio, yn myned at ac yn rheoli’r wybodaeth honno. Mae ein dulliau’n bodloni gofynion cydymffurfio RhDDC.

Dolenni wedi eu noddi, comisiynu ac olrhain cysylltiedig

Nid yw ein gwefan yn cynnwys hysbysebion na dolenni wedi’u noddi gan bartneriaid. Er hynny, rydym yn arddangos negeseuon cyfryngau cymdeithasol o’n cyfrifon Twitter ac Instagram. Mae Twitter a Instagram yn darparu eu gwasanaethau yn seiliedig ar eu preifatrwydd a’u polisïau cwcis.  Bydd negeseuon Twitter ac Instagram ond yn ymddangos pe baech yn dewis “Derbyn Pob Cwci” yn y faner a arddangosir ar waelod y wefan.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y defnydd y gall Twitter neu Instagram ei ddefnyddio ar gyfer eich data yna Awgrymwn nad ydych yn clicio ar y botwm “Derbyn Pob Cwci”.

Negeseuon marchnata e-bost a thanysgrifio

O dan y Rheoliad Data Cyffredinol rydym yn defnyddio’r sail caniatâd gyfreithiol i unrhyw un sy’n tanysgrifio i’n cylchlythyr neu ein rhestr bostio marchnata. Dim ond data penodol amdanoch y byddwn yn casglu, fel y manylir arno yn adran  “prosesu eich gwybodaeth talu ” uchod. Mae unrhyw negeseuon marchnata e-bost a anfonwn yn cael eu gwneud felly drwy ddarparwr gwasanaeth marchnata e-bost. Darparwr gwasanaeth trydydd parti o feddalwedd/cymwysiadau sef ‘aps’ yw hwn sy’n caniatáu i farchnatwyr anfon ymgyrchoedd marchnata e-bost at restr o ddefnyddwyr. Ein darparwr ni yw MailChimp.

Mae’n bosibl y bydd negeseuon marchnata e-bost a anfonwn yn cynnwys systemau gwe-gysylltu traciau/olrhain neu dechnolegau tebyg ar gyfer gweinyddion er mwyn tracio gweithgaredd tanysgrifio o fewn negeseuon marchnata e-bost. Pan gânt eu defnyddio, gall negeseuon marchnata o’r fath gofnodi amrywiaeth o ddata megis; amserau, dyddiadau, cyfeiriadau IP, agor, clicio, anfon ymlaen, data daearyddol a demograffig. Bydd data o’r fath, o fewn ei gyfyngiadau, yn dangos y gweithgaredd a wnaeth pob tanysgrifiwr ar gyfer yr ymgyrch e-bost honno.

Mae unrhyw negeseuon marchnata e-bost a anfonwn yn unol â’r RhDDC a’r RhPCE. Rydym yn rhoi dull hawdd i chi dynnu eich caniatâd yn ôl (dad-danysgrifio) neu reoli eich dewisiadau/y wybodaeth sydd gennym amdanoch unrhyw bryd. Cyrchwch unrhyw un o’n negeseuon marchnata am gyfarwyddiadau ar sut i ddileu tanysgrifiad neu reoli eich dewisiadau. Gallwch hefyd danysgrifio o bob rhestr MailChimp drwy ddilyn y ddolen hon, neu gallwch gysylltu â MailChimp yn uniongyrchol.

Rydym yn cadw’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi o fewn ein system ebostio:

  • Cyfeiriad e-bost
  • Cyfeiriad Darparwr Gwe [IP]
  • Amser tanysgrifio & dyddiad

Sut i gysylltu efo ni

Pe baech ag unrhyw gwestiynau am ein polisi personol, y data rydym yn cadw amdanoch, neu pe baech am ymarfer eich hawliau diogelu data, os gwelwch yn dda peidiwch ag oedi i gysylltu gyda ni.

Ebostiwch : post@valleysaletyrails.wales

Neu ffoniwch : 07749 279 481