Yn y blogpost yma mae Dylan Jones o Lwybrau Cwrw y Cymoedd a Theithiau Cymru Dylan yn archwilio’r treftadaeth cyfoethog o enwau tafarnau Cymraeg. Gellir ddarllen rhan un yma.

Yr arwydd tafarn mwyaf cyffredin yng Nghymru (ac yn Lloegr hefyd) yw’r The Red Lion neu’r Llew Coch gyda thros 60 yn yr wlad, gyda’r rhan mwyaf o hyn yn Sir y Fflint.  Ymddangosodd y Llew Coch ar arfbais John o Gaunt, Dug cyntaf Caerhirfryn, a oedd un o’r dynion pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn yr holl wlad yn ystod y 14eg ganrif a sylfaenydd Tŷ Lancastr. Gellir gweld arwyddion dwyieithog yn Llanrwst, Llansannan, Penderyn and Thregaron i enwi dim ond rhai.

Mae’r Llew Du yn arwydd tafarn poblogaidd arall yng Nghymru ac mae’n gysylltiol ag arfbais Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru.  Gan fod Powys yn rhanbarth brodorol Glyndŵr fydd e ddim o ryfeddod bod Y Llew Du yn gysylltiedig o hyd ag Owain yma a thu hwnt: yn Aberaeron, Tal y Bont a Phontrhydfendigaid.  Yn ddiddorol, drws nesaf i’r Llew Du (adnabyddir yn lleol fel ‘Y Blac’) yn Nhal y Bont yw’r Llew Gwyn.  Gellir gweld un arall yn Ninbych. Mae’n hanesyddol o bwys ar wal Y Llew Du ym Mhontrhydfendigaid bod bathodyn/plac o olwyn ag adenydd Clwb Teithio ar Feicau a ddosbarthir am y tro cyntaf ym 1883.  Ni fu llawer yn goroesi i’r 21ain ganrif.

Yn aros gyda’r thema o lewod yng Nghwm ger Dyserth, Sir Dinbych yw’r Llew Glas sy’n un o’r tafarnau rhydd hynaf yng Nghymru.  Mae’r Llew yn goforiog o hanes ac yn ôl i chwedl mae twnel dan ddaear yn arwain at y fynwent lleol.

Symbol arall ar gyfer Tywysog Cymreig oedd yr eryr a ddefnyddai gan Owain Gwynedd a gafodd dri eryr ar ei darian a gellir gweld ar Westy’r Eryrod rhestredig Gradd 2 o’r 18eg ganrif yn Llanrwst.  Mae’r Eryrod yn Llanuwchllyn ger Y Bala gan arwydd dwyieithog ar gefndir gwyrdd plaen.

Byddai prothmyn yn rhan pwysig o fywyd Cymreig a gan fod cymaint o lwybrau porthmona yn dechrau o Gymru mae’r Ychen Du yn Abergwili ger Caerfyrddin yn ein atgoffa ni o ffordd o fyw ers llawer dydd.  Y dyddiau hyn rhan o fwyty prysur yw stablau y dafarn o’r 18eg ganrif.  Mae’r Drovers Arms yng Nghaerfyrddin yn un o sawl tafarn yng Nghymru sy’n portreadu traddodiad a threftadaeth y porthmona.

Diolch byth i’r Porthmona roedd esielon uchaf Eryri yn anoresgynadwy i’w croesi gydag anifeiliaid a delweddir y mynydd yn arwydd y dafarn Bron Eryri ym Mhenmaenmawr, yn gyfagos i’r A55 prysur.  Yn y cefndir gwelir Crib Goch mawreddog â min fel cyllell gyda phwynt uchaf y grib yn 923m uwchben lefel y mor. Mae’r Bron Eryri yn dyddio yn ôl i’r 1860au cynnar a chychwynnodd fel tŷ tafarn yn y 1880au.  Yn hwyr fis Ionawr, 1917 cafodd tua 90 chwarelwyr eu difyrri yn y Bron cyn eu hafnon i ymladd yn Ffrainc ac yn anffodus fel cymaint o ddynion ledled y wlad ni ddychwelant nhw.

A rei arwydd cafodd y cyn dŷ tafarn Y Chwarelwr enghraifft braf o chwarelwr yn brysur ar ei waith gan dorri llechen.  Yn ystod y cyfnod chwareli llechen ehangodd y pentref Llanllyfni yn gyflym ond yn anffodus cauodd y Quarryman’s Arms yn 2008.

Yn y Pentan yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint gellir weld arwydd gyda Chymro stereoteipiedig gartre. Yma rydym ni’n gweld hen ddyn sy’n cynnau pibell ger yr aelwyd ac yn y tu blaen rydym ni’n sylwi ar symbolau Cymru yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd â nhw: dol Cymreig, plât cig â phatrwm helygen, lamp glöwr, llwy search, a cherfiwr Cymreig.  Byddai’r Pentan yn weithdy teilwr Daniel Owen (1836–1895), y nofelydd a phregethydd enwog o’r 19eg ganrif, a ddaeth i’w adnabod yn ddiweddarach fel y Dickens Cymreig ar ôl llwyddiant ei waith Rhys Lewis a Gwen Tomos.  Owen ydy’r dyn sydd ar yr arwydd presennol. Gyda llaw, ymwelodd The Beatles â’r Pentan ym 1963.

Pob llun: Dylan Jones