CYFLWYNIAD

Ganwyd Raymond Williams ym Mhandy ger Y Fenni ym 1921 ac mae’r Sefydliad Raymond Williams (RWF) yn dod â’u dathliadau Canmlwyddiant 2021-i ben gyda daith fws, sydd wedi’i threfnu a’i chynnal gan ninnau yn Llwybrau Cwrw y Cymoedd, o leoliadau yn ne Cymru ynglŷn â bywyd a gwaith Williams Ddydd Sadwrn 15 Hydref 2022.

PWY OEDD RAYMOND WILLIAMS?

Un o athronwyr diwylliannol a meddylwyr sosialaidd yr G20fed oedd Raymond Williams. Yng nghyfnod o dri flynedd yn ei holl yrfa ysgrifennu toreithiog fe gyhoeddodd Williams ddau destun deallusol eiconig ac arloesol – Culture and Society (1958) a The Long Revolution (1961) – a frechdanodd ei waith ffuglen enwocaf Border Country (1960) a osodwyd yn ac o gwmpas y dref ffuglennol o Gwenton (sylfaenwyd ar Y Fenni).

Astudiodd Williams ac yna dysgodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, a pharheuai fod yn feddylwr craff a radical, adolygydd llenyddol, ac ysgrifennydd o ffuglen; yr olaf gyda gysylltiadau â Chymru fel arfer. Bu farw cyn ei amser yn 66 oed ym 1988 ond mae ei ddylanwad yn goleuni o hyd. Yn wir, bu ei ddysgu’n ennill cynulleidfa newydd wrth bod cenedlaeth newydd yn darganfod ysbrydoliaeth ac her yn ei waith ar gefn dathliadau canmlwyddiant RWF a fu’n ceisio ail-gyflwyno rhai o syniadau allweddol Williams i fannau a fforymau cyhoeddus cyfoes.

Y DAITH

Yn cychwyn ym Mhandy, pentref enedigol ‘wlad y ffin’ Raymond Williams, bydd y daith ar hyd y dydd yn ymweld gan fws â’r Fenni, Merthyr Tudful ac yn gorffen yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol Sain Ffagan, un o leoliadau yn thriller gwleidyddol Williams o 1978 The Volunteers. Bydd siaradwyr o’r bydau llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn animeiddio’r daith gyda fewnwelediadau ar sut mae Williams wedi dylanwadu eu meddwl a’u hysgrifennu. Y siaradwyr cyntaf i’w cadarnhau yw ysgrifennydd a cholofnydd i’r Guardian Jude Rogers; cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood; ac ysgrifennydd Darren Chetty. Caiff rhagor eu cyhoeddi cyn bo hir.

Cynulledifa darged y daith yw’r bobl yna sydd wedi darganfod Raymond Williams yn ddiweddar ac sydd gan frwdfrydedd a chwilfrydedd dros ei waith. Yn arbennig, bydd hi o ddiddordeb i bobl sy’n ymgysylltiedig â:

  • addysg oedolion
  • trefnu cymunedol
  • undebaeth lafur
  • gweithgareddau celfyddydau a diwylliannol
  • addysgu pellach ac addysg uwch

Mae tocynnau ‘deryn cynnar’ ar gael ar Eventbrite gydag ostyngiadau ar gyfer myfyrwyr, pobl di-gyflog, a’r rheini sy’n gymwys i Gredyd Cynhwysiant. Bydd pawb sy’n gofrestru am y daith yn derbyn copi cyfarch o Red Pepper, cylchgrawn chwarterol a gwefan am wleidyddiaeth a diwylliant y chwith.

https://bit.ly/3PXWmEn

AM SEFYDLIAD RAYMOND WILLIAMS

Elusen yw’r RWF sy’n hybu addysg oedolion a dysgu cymunedol ac yn gyfunol er mwyn cyflawni’r ‘Chwyldro Hir’ dros yr hyn a dadleuai Williams trwy ei waith a thrwy gydol ei fywyd. Gallwch chi ddilyn y RWF ar Twitter ar @longrevolution neu ymweld â’i wefan.